Yma, gallwch ddysgu rhagor amdanom ni, y gwaith diddorol a wnawn a’r cyfleoedd boddhaus, gwerth chweil parhaol a dros dro rydym yn eu cynnig.
Ymunwch â’n rhwydwaith talent heddiw i gael y newyddion diweddaraf am ein cyfleoedd gwaith presennol ac yn y dyfodol.
Yn CThEF ein gwerthoedd yw proffesiynoldeb, uniondeb, parch ac arloesedd. Rydym yn gwrando ar ein pobl ac yn ymrwymo i fod yn deg. Rydyn ni’n garedig ac yn ddynol. Rydyn ni’n cynnwys pobl, beth bynnag yw’r gwahaniaeth. Rydym yn gweithio ar y cyd. Rydyn ni’n cael sgyrsiau onest.
Mae ein gwerthoedd a’n hymrwymiadau yn ein helpu i adeiladu gweithlu y gallwn fod yn falch ohono sy’n rhoi hyder i ni ein bod yn rhoi’r gwasanaeth gorau i’n cwsmeriaid.
Dysgwch ragor am y buddion y byddwch yn eu cael fel cyflogai CThEF.
Rydym am i chi gael cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, felly yn y rhan fwyaf o achosion cewch gyfle i weithio gartref am o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos. Rydym hefyd yn caniatáu amseroedd dechrau a gorffen hyblyg, a phatrymau gwaith amgen.
Mwynhewch 25 diwrnod o wyliau blynyddol, gan gynyddu 1 diwrnod ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth hyd at 30 diwrnod. Rydym hefyd yn cynnig absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu a rhieni hael, yn ogystal â thâl arbennig ac absenoldeb di-dâl.
Fel cyflogai CThEF, byddwch yn cael eich cofrestru yng Nghynllun Pensiwn Gwasanaeth Sifil. Bydd cyfraniadau ein cyflogwr yn helpu’ch ymddeoliad i fod yn fwy cyfforddus, o’i gymharu â rhai pensiynau yn y sector preifat.
Yn CThEF, mae gennym nifer o Rwydweithiau Amrywiaeth Staff y gallwch ymuno â nhw. Mae’r rhain yn cynnwys hil, rhyw, anabledd, LGBT+, gofalwyr, symudedd cymdeithasol a gwladolion yr UE, ac mae gennym grwpiau arbenigol ar gyfer oedran a chrefydd neu gredoau.
Beth bynnag yw’ch nodau gyrfa, rydym am i chi eu cyrraedd. Dyna pam rydym yn cynnig ystod o offer dysgu a datblygu sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i adeiladu’ch gyrfa ar draws y Gwasanaeth Sifil.
I gael rhagor o wybodaeth am fuddion gweithio yn CThEf, edrychwch ar ein llawlyfr.
Diolch am gofrestru gyda ni!
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis.
Rydym yn defnyddio cwcis i bersonoli cynnwys fel argymhellion swyddi, ac i ddadansoddi ein traffig. Rydych yn cydsynio i’n cwcis os ydych yn clicio "Rwy’n Derbyn". Os byddwch yn clicio ar "Nid wyf yn derbyn", yna ni fyddwn yn defnyddio cwcis ond efallai y bydd gennych brofiad defnyddiwr dirywio. Gallwch newid eich gosodiadau trwy glicio ar y cysylltiad Gosodiadau ar frig y ddyfais
Mae’r cwcis hyn yn angenrheidiol er mwyn i’r wefan weithredu ac ni ellir eu diffodd yn ein systemau. Fel arfer, dim ond mewn ymateb i gamau a wnaed gennych sy’n gyfystyr â chais am wasanaethau, megis gosod eich dewisiadau preifatrwydd, mewngofnodi neu lenwi ffurflenni. Gallwch osod eich porwr i’ch rhwystro neu eich rhybuddio am y cwcis hyn, ond ni fydd rhai rhannau o’r wefan yn gweithio wedyn.
Mae’r cwcis hyn yn ein galluogi i gyfrif ymweliadau a ffynonellau traffig fel y gallwn fesur a gwella perfformiad ein gwefan. Maen nhw’n ein helpu ni i wybod pa dudalennau sydd fwyaf a lleiaf poblogaidd a gweld sut mae ymwelwyr yn symud o gwmpas y wefan. Os na fyddwch yn caniatáu’r cwcis hyn, ni fyddwn yn gwybod pryd rydych wedi ymweld â’n gwefan, ac ni fyddwn yn gallu monitro ei berfformiad.