Two female colleagues sitting at a desk in an office space, chatting. Text: Permanent roles

     

Swyddi Parhaol

Defnyddio’ch sgiliau a’ch profiad i wneud gwahaniaeth

Rydym yn chwilio am weithwyr proffesiynol medrus i ymuno â CThEF a rhoi cymorth i ni yn ein gweledigaeth i fod yn adran dreth a thollau fodern ddibynadwy sy’n cyd-fynd â’r ffordd y mae ein cwsmeriaid yn rhedeg eu busnesau a’u bywydau.

Mae ein rolau arbenigol parhaol yn amrywio ar draws ystod o ddisgyblaethau o Reolwyr Cyfleusterau i Benseiri Menter a phopeth rhyngddynt, ac rydym wedi ymrwymo i roi’r cymorth sydd ei angen ar ein cyflogeion i dyfu ac adeiladu gyrfa hapus a gwerth chweil.


Pam gweithio i ni?

Pan fyddwch yn ymuno â CThEF, byddwch yn ymuno â chymuned gyfeillgar o gydweithwyr ac yn cael mynediad at rai buddion gwych, gan gynnwys gweithio hyblyg, cofrestru yn ein cynllun pensiwn, gostyngiadau ar y stryd fawr a mwy.  
 
I ddysgu rhagor am ein swyddi gwag presennol, ymunwch â’n rhwydwaith talent heddiw. Gall ein tîm recriwtio drefnu galwadau ffôn neu fideo i drafod y rôl, y broses ymgeisio ac unrhyw gwestiynau sydd gennych fel eich bod yn cael eich hysbysu’n llawn am ein cyfleoedd.  

 

Ymunwch â’n Rhwydwaith Talent

Mae’ch gyrfa gyda CThEF yn dechrau yma.

Dyma ein 3 swydd ddiweddaraf.

Adult, Female, Person, Woman, Headphones, Sitting, Face, Laptop, Glasses, Chair
Ymunwch â’n Rhwydwaith Talent