Person, Woman, Adult, Female, Man, Male, Conversation, People, Glasses, Laptop

Datgelu cyfleoedd cudd i wneud gwahaniaeth go iawn

A oes gennych sylw at fanylder da ac am sicrhau bod pawb yn dilyn y rheolau?

Y rolau hyn yw’ch cyfle i ddefnyddio’ch arbenigedd i fynd i’r afael â throseddau ariannol a sicrhau bod pawb yn talu eu cyfran deg. Dyma’ch cyfle i ddefnyddio’ch arbenigedd i fynd i’r afael ag achosion cymhleth a byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i dirwedd ariannol y DU.

Rhannwch eich CV heddiw

Nid Chi?

Rydym wedi e-bostio cod i wirio pwy ydych. Gwiriwch eich ffolder sbam/sothach os nad ydych yn derbyn yr e-bost yn eich mewnflwch.

Diolch am gyflwyno eich CV

Dyma pam ei fod yn fwy na swydd yn unig

 

Bod yn Warcheidwad Cyllid Cyhoeddus:

Byddwch ar y rheng flaen, yn mynd i’r afael â materion treth cymhleth ar ran busnesau mawr. Byddwch yn datgelu risgiau posibl ac yn sicrhau bod cwmnïau’n cydymffurfio â rheoliadau.

Cael effaith wirioneddol:

Mae’r trethi rydych yn helpu i’w casglu yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, o ofal iechyd i addysg. Byddwch yn teimlo’r balchder hwnnw wrth gyflawni er lles cymdeithasol.

Dod yn awdurdod treth:

Mae’r rôl hon yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu’ch sgiliau a’ch gwybodaeth. Bydd eich gyrfa yn eich dwylo’ch hun.

Byddwch yn teimlo gwir ymdeimlad o berthyn: 

Mae CThEF yn cynnig cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith gydag opsiynau gweithio hyblyg. A chyda thîm amrywiol ac angerddol, byddwch yn gweithio mewn capasiti traws-swyddogaethol ar achosion proffil uchel, gan lunio polisi treth ar gyfer y dyfodol.

 

Mae’r swydd hon yn berffaith i chi os oes gennych y canlynol:

  • cymhwyster proffesiynol mewn trethiant, cyfrifeg, neu faes cysylltiedig
  • profiad sylweddol o gydymffurfio â threthi corfforaethol
  • sgiliau dadansoddol a datrys problemau ardderchog
  • sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus

 

Dyma beth allwch ei ddisgwyl yn CThEF:

  • cyflog cystadleuol - £54,439 i £67,713 gyda chyfraniad cyflogwr o 28.97% i’ch pensiwn
  • opsiynau gweithio hyblyg
  • cynnydd gyrfa clir
  • gweithle cynhwysol

 

Join Our Talent Network