HMRC Digital and Data Careers

Croeso i’r Gymuned Alumni Digidol a Data

 Early Talent Senior Sponsor Nic Bourven

"Rwy’n falch iawn o’ch croesawu i’n Cymuned Gyrfaoedd Alumni Digidol a Data, platfform pwrpasol sy’n eich helpu i gadw mewn cysylltiad â CThEF.

Fel cyn-fyfyrwyr lleoliad diwydiannol, rydych eisoes wedi profi eich ymroddiad a’ch potensial, a nawr, fel cyn-fyfyrwyr, bydd y platfform hwn yn offeryn gwerthfawr i gefnogi eich taith gyrfa barhaus.

Bydd y Tîm Proffesiwn Digidol a Data yn cysylltu â chi drwy gydol y flwyddyn a hoffwn ddymuno’n dda i chi yn bersonol wrth i chi ddechrau eich blwyddyn olaf yn y brifysgol."

Nic Bourven

Dirprwy Bennaeth Proffesiynol Digidol a Data y Llywodraeth, Uwch Noddwr Talent Cynnar  

GDD_Logo.jpg

Ein pwrpas

Nod y gymuned cyn-fyfyrwyr yw rhoi cymorth gyn-fyfyrwyr Lleoliadau Diwydiannol CThEF (IP’s), gan ddarparu cyfleoedd i chi wneud y canlynol:

  • cadw mewn cysylltiad â CThEF
  • rhannu’ch profiadau fel IP
  • rhannu’ch llwyddiannau fel IP
  • chwilio am swyddi digidol a data yn CThEF
  • dod yn Llysgennad i CThEF 

I fod yn rhan o’ch cymuned cyn-fyfyrwyr, cwblhewch y ffurflen isod.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu a’ch diweddaru am bopeth Digidol a Data.

Dysgwch ragor am yrfaoedd digidol yn CThEF drwy ymweld â’n tudalen ar Yrfaoedd y Gwasanaeth Sifil .

A man and 2 women sitting around a laptop smiling.

Ymunwch â’n cymuned cyn-fyfyrwyr i gael diweddariadau yn y dyfodol.

Nid Chi?

Rydym wedi e-bostio cod i wirio pwy ydych. Gwiriwch eich ffolder sbam/sothach os nad ydych yn derbyn yr e-bost yn eich mewnflwch.

Diolch i chi am ymuno â'n cymuned o gyn-fyfyrwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am CThEM a phopeth digidol a data.

Profiadau cydweithwyr

A young woman smiling with laptop in hands.
Man wearing a virtual reality headset.
Young woman standing in front of large TV screen presenting.

Taith Eden

"Roeddwn yn llwyddiannus wrth sicrhau fy lleoliad diwydiannol o fewn CThEF fel Ymchwilydd Defnyddwyr Cyswllt. Pan ddechreuais i, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n gweithio mewn amgylchedd swyddfa brawychus, yn gwneud paneidiau o de i uwch gydweithwyr, ac yn meddwl y byddwn i’n lwcus i gymryd rhan mewn prosiect - ond ni allwn fod wedi bod yn fwy anghywir. 

Trwy gydol fy lleoliad diwydiannol, rwyf wedi bod yn rhan o brosiectau dirifedi ac wedi cael cymorth bob cam o’r ffordd yn fy nhaith. 

Rwyf wedi ennill profiad gwaith go iawn yng Ngwasanaethau Digidol y Llywodraeth (y mae galw mawr amdano wrth chwilio am swyddi) yn methu gweithio mewn cymuned ymchwilwyr defnyddwyr go iawn. Mae’r profiad hwn wedi gwella fy sgiliau rheoli amser a chyfathrebu, ac yn bwysicaf oll, rwyf wedi magu hyder wrth i fy nhaith o fewn CThEF fynd yn ei flaen.

Yn dilyn fy lleoliad diwydiannol, rwyf wedi llwyddo i sicrhau rôl barhaol o fewn CThEF. Nid wyf yn credu y gallwn fod wedi cyflawni fy llwyddiant heb y profiad, datblygiad proffesiynol a’r wybodaeth rwyf wedi’i ennill wrth gwblhau fy lleoliad diwydiannol."

Picture of Eden Hanratty

Pobl. Pwrpas. Potensial

A ydych yn chwilio am yrfa gyda phwrpas lle gallwch ddarganfod eich gwir botensial?

Gwyliwch ein fideo isod i glywed beth sydd gan ein cyflogeion i’w ddweud am sut brofiad yw gweithio i CThEF mewn gwirionedd.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiwn i aelod o’r tîm, cysylltwch â ni drwy e-bostio: governmentdigitalanddataprofessionteam@hmrc.gov.uk

Join Our Talent Network