Face, Happy, Head, Person, Smile, Adult, Female, Woman, Laughing, Dimples

Rydym yn recriwtio: Arbenigwyr Treth Rhyngwladol

Darganfyddwch eich cyfleoedd yn CThEF

A oes gennych brofiad mewn Prisio Trosglwyddo cymhleth a/neu waith Treth Ryngwladol ehangach? 

A ydych am ddefnyddio’ch sgiliau i fynd i’r afael â rhai o faterion treth mwyaf heriol y DU? 

A ydych yn chwilio am gyfle i arwain tîm o arbenigwyr treth profiadol a chael effaith wirioneddol ar dirwedd dreth y DU? 

Os felly, mae gennym y swydd berffaith i chi yn CThEF! Gwyliwch ein fideo i ddarganfod sut beth yw gweithio fel Arbenigwr Treth Rhyngwladol o fewn CThEF.

Image text reads "Discover the role of an International Tax Specialist at HMRC" and shows people from diverse backgrounds in 3 images. All people are smiling.

Swydd

Arbenigwr Treth Rhyngwladol

Cyflog

£56,344 - £84,854

Lleoliad

Belfast, Birmingham, Bryste, Caerdydd, Caeredin, Croydon, Glasgow, Leeds, Lerpwl, Manceinion, Newcastle, Nottingham, Portsmouth, Stratford.

Ymunwch â’n Rhwydwaith Talent

Nid Chi?

Rydym wedi e-bostio cod i wirio pwy ydych. Gwiriwch eich ffolder sbam/sothach os nad ydych yn derbyn yr e-bost yn eich mewnflwch.

Diolch am gofrestru gyda ni!

Cymwysterau

Dylech feddu ar un o’r cymwysterau canlynol (bydd cymwysterau amgen yn cael eu hystyried yn ôl eu rhinweddau):  

  • Rhaglen Arbenigol Treth CThEF neu gyfwerth blaenorol (Treth Uniongyrchol)

neu gymhwyster cyfwerth allanol fel:

  • Cynghorydd Treth Siartredig (CTA)/Cydymaith y Sefydliad Trethiant Corfforedig (ATII),
  • Diploma Uwch mewn Trethi Rhyngwladol (ADIT)
  • cymhwyster allanol megis cymhwyster aelodaeth Pwyllgor Cyfrifwyr Cyfrifyddu Ymgynghorol (CCAB), er enghraifft Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW), Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yn yr Alban (ICAS), Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Cyllid Cyhoeddus (CIPFA), Cymdeithas
  • Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), lle mae materion treth uniongyrchol yn rhan sylweddol o’ch profiad proffesiynol cymhwyster fel Cyfreithiwr, Bargyfreithiwr neu Gyfreithiwr CILEX (gan gynnwys modiwl Cyfraith Busnes a Masnachol cam Proffesiynol) yng Nghymru a Lloegr (neu gyfwerthion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon), ar yr amod bod materion treth uniongyrchol yn rhan sylweddol o’ch profiad proffesiynol.

Gall y panel ystyried profiad sylweddol perthnasol o dreth yn lle’r cymwysterau ffurfiol a restrir uchod, os gellir dangos bod rôl arweiniol wedi’i chymryd dros nifer o flynyddoedd a bydd hyn yn cael ei ystyried a’i farnu yn ôl ei rinweddau ei hun.

Pobl. Pwrpas. Potensial

A ydych yn chwilio am yrfa gyda phwrpas lle gallwch ddarganfod eich gwir botensial?

Gwyliwch ein fideo isod i glywed beth sydd gan ein cyflogeion i’w ddweud am sut brofiad yw gweithio i CThEF mewn gwirionedd.

Ymunwch â’n Rhwydwaith Talent