Yma, gallwch ddysgu rhagor amdanom ni, y gwaith diddorol a wnawn a’r cyfleoedd boddhaus, gwerth chweil parhaol a dros dro rydym yn eu cynnig.
Ymunwch â’n rhwydwaith talent heddiw i gael y newyddion diweddaraf am ein cyfleoedd gwaith presennol ac yn y dyfodol.
Yn CThEF ein gwerthoedd yw proffesiynoldeb, uniondeb, parch ac arloesedd. Rydym yn gwrando ar ein pobl ac yn ymrwymo i fod yn deg. Rydyn ni’n garedig ac yn ddynol. Rydyn ni’n cynnwys pobl, beth bynnag yw’r gwahaniaeth. Rydym yn gweithio ar y cyd. Rydyn ni’n cael sgyrsiau onest.
Mae ein gwerthoedd a’n hymrwymiadau yn ein helpu i adeiladu gweithlu y gallwn fod yn falch ohono sy’n rhoi hyder i ni ein bod yn rhoi’r gwasanaeth gorau i’n cwsmeriaid.
Dysgwch ragor am y buddion y byddwch yn eu cael fel cyflogai CThEF.
Rydym am i chi gael cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith, felly yn y rhan fwyaf o achosion cewch gyfle i weithio gartref am o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos. Rydym hefyd yn caniatáu amseroedd dechrau a gorffen hyblyg, a phatrymau gwaith amgen.
Mwynhewch 25 diwrnod o wyliau blynyddol, gan gynyddu 1 diwrnod ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth hyd at 30 diwrnod. Rydym hefyd yn cynnig absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu a rhieni hael, yn ogystal â thâl arbennig ac absenoldeb di-dâl.
Fel cyflogai CThEF, byddwch yn cael eich cofrestru yng Nghynllun Pensiwn Gwasanaeth Sifil. Bydd cyfraniadau ein cyflogwr yn helpu’ch ymddeoliad i fod yn fwy cyfforddus, o’i gymharu â rhai pensiynau yn y sector preifat.
Yn CThEF, mae gennym nifer o Rwydweithiau Amrywiaeth Staff y gallwch ymuno â nhw. Mae’r rhain yn cynnwys hil, rhyw, anabledd, LGBT+, gofalwyr, symudedd cymdeithasol a gwladolion yr UE, ac mae gennym grwpiau arbenigol ar gyfer oedran a chrefydd neu gredoau.
Beth bynnag yw’ch nodau gyrfa, rydym am i chi eu cyrraedd. Dyna pam rydym yn cynnig ystod o offer dysgu a datblygu sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i adeiladu’ch gyrfa ar draws y Gwasanaeth Sifil.
I gael rhagor o wybodaeth am fuddion gweithio yn CThEf, edrychwch ar ein llawlyfr.
Diolch am gofrestru gyda ni!
This website uses cookies.
We use cookies to personalise content such as job recommendations, and to analyse our traffic. You consent to our cookies if you click "I Accept". If you click on "I Do Not Accept", then we will not use cookies but you may have a deteriorated user experience. You can change your settings by clicking on the Settings link on the top right of the device
These cookies are necessary for the website to function and cannot be switched off in our systems. They are usually only set in response to actions made by you which amount to a request for services, such as setting your privacy preferences, logging in or filling in forms. You can set your browser to block or alert you about these cookies, but some parts of the site will not then work.
These cookies allow us to count visits and traffic sources so we can measure and improve the performance of our site. They help us to know which pages are the most and least popular and see how visitors move around the site. If you do not allow these cookie we will not know when you have visited our site, and will not be able to monitor its performance.