Headshot of male employee smiling. He is wearing a white shirt. Text: Tax professionals.

A ydych yn weithiwr treth proffesiynol sydd am fod ar flaen y gad yn y byd treth?

Os felly, mae angen i chi ymuno â Chymuned Gweithwyr Proffesiynol Treth yr awdurdod treth mwyaf dibynadwy! Mae’r gymuned hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol treth uchelgeisiol sydd am achub y blaen a gwneud gwahaniaeth yn y byd.

Fel aelod o Gymuned Broffesiynol Treth y DU, byddwch yn cael mynediad at y canlynol:

  • Mewnwelediadau unigryw: Chi fydd y cyntaf i wybod am y tueddiadau a’r datblygiadau diweddaraf mewn cyfraith a rheoleiddio trethi.
  • Rhwydwaith ffyniannus: Byddwch yn cael eich cysylltu â rhwydwaith o weithwyr proffesiynol o’r un anian sy’n angerddol am dreth.
  • Cyfleoedd dysgu digyffelyb: Gallwch gymryd rhan mewn gweminarau, gweithdai a digwyddiadau eraill i ddysgu sgiliau newydd a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau diweddaraf.
  • Rhwydwaith talent: Byddwch yn cael eich cysylltu â rhwydwaith o recriwtwyr mewnol, fel y gallwch ddod o hyd i’ch cyfle gwych nesaf yn CThEF.

Ymunwch â’n Cymuned Gweithwyr Treth Proffesiynol heddiw a dechrau siapio dyfodol treth!

Ymunwch â’n Rhwydwaith Talent

Mae’r arian a gasglwn yn talu am wasanaethau cyhoeddus y DU ac yn rhoi cymorth ariannol i bobl.

£814 biliwn

cyfanswm o refeniw treth
 

£34 biliwn

y dreth ychwanegol a gasglwyd drwy fynd i’r afael ag achosion o arbed treth, osgoi treth ac achosion eraill o ddiffyg cydymffurfio

 

12.2 miliwn

nifer y plant a gafodd gymorth drwy daliadau Budd-dal Plant
 

£718 miliwn

yr arian wedi’i dalu mewn Taliadau Costau Byw i gwsmeriaid credydau treth cymwys

 

£165 miliwn

yr arian wedi’i adennill o asedion troseddol
 

99,000

y gostyngiad yn nifer yr adroddiadau o sgamiau ffôn yn gysylltiedig â CThEF
*2022 i 2023
3 female and 1 male colleague sitting at a large table in an office space. They are working on laptops and in conversation.

"Mae’r gwaith rydym yn ei wneud yn hanfodol i helpu rôl CThEF wrth ariannu gwasanaethau cyhoeddus y DU, ac i helpu’r Llywodraeth i ddatblygu polisïau treth newydd i gyflawni ei hamcanion.

Mae ein swyddi’n llawn cyfleoedd i ddysgu a datblygu, ac fel tîm rydym i gyd yn rhoi cymorth i’n gilydd, dysgu a gofalu am ein gilydd, yn ein sgiliau proffesiynol ac fel pobl."

 Alison, Proffesiwn Polisi

Gofynnwch gwestiwn i ni am weithio ym Mhroffesiwn Treth CThEF

Ymunwch â’r rhwydwaith talent sy’n rhoi’r fantais i chi mewn treth!

Nid Chi?

Rydym wedi e-bostio cod i wirio pwy ydych. Gwiriwch eich ffolder sbam/sothach os nad ydych yn derbyn yr e-bost yn eich mewnflwch.

Diolch am gofrestru gyda ni!

Ymunwch â’n Rhwydwaith Talent